Mae Ynni Ogwen wedi bod yn cydweithio â chynllun ECCO, Partneriaeth Ogwen, Cyd Ynni a pherchnogion nifer o adeiladau cymunedol yn Nyffryn Ogwen i geisio datblygu cynllun paneli solar cymunedol newydd. Bydd cynllun Heuldro Ogwen yn gosod paneli solar ar nifer o adeiladau cymunedol yn y Dyffryn yn cynnwys Clwb Rygbi Bethesda, Canolfan Dyffryn Gwyrdd a Neuadd Ogwen. Gyda chymorth cynllun ECCO, mae’r cynllun bellach wedi llwyddo i gael rhag-achrediad FITs gan Ofgem sy’n golygu fod angen i ni osod y paneli cyn diwedd Mawrth 2020. Mae’r amserlen yn dyn ond ar y cyd â phartneriaid, rydym yn awr yn sefydlu hyfywedd ariannol a thechnegol y cynllun ac yn trafod yn agos gyda pherchnogion yr adeiladau. Unwaith fydd y cynllun busnes yn ei le, byddwn yn ystyried yr opsiynau cyllido yn cynnwys yr opsiwn o agor cynllun cyfranddaliadau cymunedol. Bydd hyn wrth gwrs yn golygu:
- fod y budd yn aros yn lleol.
- fod cynhyrchiant ynni adnewyddadwy cymunedol Dyffryn Ogwen yn cynyddu.
- Fod ôl troed carbon y Dyffryn yn lleihau.
- Fod costau trydan yr adeiladau cymunedol yn gostwng.