Mae Ynni Ogwen wedi bod yn cydweithio â chynllun ECCO, Partneriaeth Ogwen, Cyd Ynni a pherchnogion nifer o adeiladau cymunedol yn Nyffryn Ogwen i geisio datblygu cynllun paneli solar cymunedol newydd. Bydd cynllun Heuldro Ogwen yn gosod paneli solar ar nifer o adeiladau cymunedol yn y Dyffryn yn cynnwys Clwb Rygbi Bethesda, Canolfan Dyffryn Gwyrdd […]