Skyline Caerau
Ariennir Skyline Caerau gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru — Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd ac sy’n rhedeg o ddiwedd 2021 tan wanwyn 2023. Mae’r prosiect hwn wedi’i leoli ar dir yr Awdurdod Glo a CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru) y tu ôl i Ystâd Blaencaerau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gan weithio ochr yn ochr â Buddsoddi’n Lleol Caerau, grwpiau cymunedol lleol a chymuned Caerau, rydym yn bwriadu datblygu’r tir ar gyfer anghenion y gymuned gan ddefnyddio’r goedwig a’r tir presennol.
Yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb 2019, mae’r gymuned wedi darlunio syniadau ar gyfer defnyddio’r tir gan gynnwys gwneud yr ardal yn hygyrch i’r holl gymuned drwy wneud y tir yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau corfforol, a chreu llwybrau cerdded ac arosfannau gorffwys i’r gymuned fwynhau’r golygfeydd o ochr y bryn. Ynghyd ag annog tyfu planhigion brodorol ac annog peillio trwy gychod gwenyn.
Mae Skyline Caerau yng nghamau cynnar ei ddatblygiad ond mae syniadau gan y gymuned yn edrych i greu incwm i’r ardal a helpu cynnal hirhoedledd a chynaliadwyedd y prosiect. Gallai hyn gynnwys creu ardal benodol ar gyfer llain pwmpenni, gŵyl fwyd yn yr hydref, tyfu ffrwythau a llysiau a maes chwarae i blant.
Ar hyn o bryd, mae grŵp llywio bach yn helpu i lunio cynlluniau Skyline Caerau ar gyfer y dyfodol. Mae cynnwys y gymuned gyfan yn hanfodol i lwyddiant Skyline Caerau er mwyn rhoi cyfle i bawb benderfynu beth sydd ei angen ar gyfer yr ardal a sut i’w gynnal. Byddwn yn gweithio’n agos gyda CNC i gynnal coedwigaeth a harddwch yr ardal ac ehangu cysylltiadau cymunedol, ymgysylltu â busnesau, elusennau a sefydliadau lleol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o Skykline Caerau, cysylltwch â ni.