The Green Valleys

The Green Valleys

  • Cartref
  • Ein Prosiectau
    • Ynni Lleol
    • Skyline
      • Bro Ffestiniog
      • Caerau
      • Treherbert
      • Ynysowen
    • Coetiroedd
  • Prosiectau yn y Gorffennol
    • ECCO – Energy Community Cooperatives
  • Ein Newyddion
  • Amdanom Ni
  • Cymraeg
    • English

Skyline Ynysowen

Mae Ynysowen yn un o’r pentrefi niferus yng Nghymru lle mae diffyg cysylltiad wedi datblygu rhwng ei bobl a’r tir. Er eu bod wedi’u hamgylchynu gan natur, ychydig iawn o bobl yn y gymuned sy’n ei fwynhau’n aml iawn. Nid yw’r mannau naturiol hyn yn cael eu hysbysebu ac mae nifer fawr o bobl yn dal i fod yn anghyfarwydd â nhw. Y rheswm am hyn yw diffyg hygyrchedd, gwaith neu addysg, a blaenoriaethau eraill sy’n gwthio ein cysylltiad â’n hamgylchedd o’r neilltu.

Mae’r tir y gobeithiwn ei wella yn ardal o harddwch naturiol sydd heb gael y gwerthfawrogiad y dylai. Ymgais yw hyn i newid ei ddefnydd mewn ffordd sydd o fudd i bawb, yn ogystal â chreu gwir ymdeimlad o berchnogaeth. Mae’r tir a elwir yn lleol yn Patsy’s Field yn cynnwys dôl fawr sy’n arwain at lan afon ac mae wedi’i amgylchynu gan goetir amrywiol. Rydym yn bwriadu darparu gofod sy’n hygyrch ac yn groesawgar, lle gall y gymuned a’i hymwelwyr archwilio, cysylltu a dysgu oddi wrth ei gilydd a’u hamgylchoedd. Gobeithiwn helpu pobl i ddarganfod y diwylliant, yr hanes a’r traddodiadau gwerin sy’n dod law yn llaw â’r dirwedd brydferth hon. 

Bydd rheoli’r tir a’r coetir ei hun yn gyfle gwych i ehangu sylfaen sgiliau pobl frwdfrydig leol; o luosogi hadau, bondocio, monitro a chynnal amodau pridd, a sesiynau amgylcheddol eraill. Mae tystiolaeth i ddangos bod y gweithgareddau hyn yn gwella iechyd a lles ac yn creu ymdeimlad o gydlyniant cymunedol y mae angen mawr amdano. Bydd y llwybr cerdded a ddefnyddir yn helaeth yn cael ei ymestyn a’i wella i greu llwybr dolennog o Patsy’s Field sy’n caniatáu i ymwelwyr fynd yn rhwydd o amgylch nodweddion yr ardal. Mae cyfleoedd di-ben-draw i hyrwyddo gwirfoddoli drwy grwpiau gweithgareddau tyfu a choetiroedd, gweithgareddau creadigol naturiol, a chadwraeth a gwella cynefinoedd. Am ein bod eisiau gwella bioamrywiaeth leol drwy ddiogelu cynefinoedd o werth cadwraethol sy’n bodoli eisoes, ynghyd â rhai newydd – megis cynefinoedd draenogod, ystlumod, adar ac ati – mae hwn yn gyfle gwych i gynnig dysgu estynedig drwy ysgolion coedwig a gweithgareddau cymdeithasol a chreadigol. 

Yn fwyaf diweddar, defnyddiwyd y tir fel parth dros dro ar gyfer addysg, archwilio a gweithgareddau drwy brofiad i deuluoedd lleol. Yn ystod haf 2021 gwelwyd rhai o’r digwyddiadau mwyaf llwyddiannus i gael eu cynnal ar y plot yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Darparwyd amrywiaeth eang o weithgareddau – archwilio coetiroedd, adnabod coed, planhigion a phryfed, fforio, a sesiynau ailgysylltu diwylliannol. Cafodd y sesiynau hyn dderbyniad da ac roeddent yn ffordd berffaith o bontio’r bwlch ac ail uno plant o ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg lleol. Byddai adeiladu strwythur addysgol a allai gynnal digwyddiadau o’r fath yn rheolaidd ynghyd â grwpiau mwy personol, yn adfywio lle sy’n segur ac yn rhoi cyfleoedd addysgol mewn pynciau sy’n cael eu hanwybyddu’n aml, er bod y diddordeb ynddynt yn tyfu ymysg pobl ifanc heddiw a bod cymaint o fudd iddynt o’u gwneud. Bydd y ganolfan addysg yn lle perffaith i arbenigwyr lleol, hyfforddwyr a thiwtoriaid sy’n ymweld gynnal dosbarthiadau a chyrsiau, gwella adnoddau dysgu amgen yn yr ardal, yn ogystal ag ysbrydoli brwdfrydedd newydd am ein hamgylchedd.

Latest Project News

    Our Projects

    • ECCO – Energy Community Cooperatives
    • Ynni Lleol
    • Skyline
    • Coetiroedd

    Latest

    • Coed Hen Ffordd
    • Heuldro Ogwen

    The Green ValleysFollow

    The Green Valleys
    SFarm_GardenCymFfermydd a Gerddi Cymdeithasol Cymru@SFarm_GardenCym·
    24 Nov

    Celebrating the benefits of wider land access - great discussion going on with Gary Mitchell, SF&G, Mark Walton ... @shared_assets, Duncan Fisher Our Food 1200, Lucie Taylor @Lucieclas & Chris Blake @thegreenvalleys @wrffc22 #wrffc

    wrffc22CGFFfC -WRFFC@wrffc22·
    24 Nov

    Integrate planning policy and food policy says @Lucieclas discussing access to land. Make it all fair and transparent. ... Great session with @SFarms_Gardens @DuncanFisher @thegreenvalleys

    thegreenvalleysThe Green Valleys@thegreenvalleys·
    24 Nov

    Job Alert! We have an opening for a project administrator to help us delivery the Skyline project. Contact via email on ... Job Advert. Pls RT Diolch!

    Terms & Conditions/Privacy Statement | About Us

    Copyright © 2023 The Green Valleys
    c/o CRiC, Beaufort Street, Crickhowell, NP8 1BN. Tel: 01874 611039
    Website designed and hosted by Mid Wales Design

    This website uses cookies to improve your experience. We'll assume you're ok with this, but you can opt-out if you wish. Cookie settingsACCEPT
    Privacy & Cookies Policy

    Privacy Overview

    This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these cookies, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may have an effect on your browsing experience.
    Necessary
    Always Enabled
    Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
    Non-necessary
    Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.
    SAVE & ACCEPT