Skyline
Astudiaeth ddichonoldeb sy’n edrych ar y posibilrwydd o gymunedau yn rheoli’r dirwedd o gwmpas eu tref neu eu pentref yw Project Skyline.
Beth fyddai’n digwydd pe baem yn galluogi pobl leol i lywio eu hamgylchedd eu hunain? Nid y dull tameidiog presennol, gyda darn bach o goedwig am rai blynyddoedd, ond cannoedd o hectarau am gannoedd o flynyddoedd. Beth fyddai cymuned yn dewis ei wneud gyda’r tir pe bai’n gallu cynllunio ar gyfer tair cenhedlaeth, yn hytrach na thair blynedd grant Loteri? Creu swyddi o goedwigaeth? Cefnogi tyddynnod neu brosiectau bwyd? Gwella mynediad i’r cyhoedd? Cefnogi bywyd gwyllt? Neu gyfuniad o’r syniadau hyn a mwy?
Mae Project Skyline yn ceisio ateb y cwestiynau hyn. Rydym wedi bod yn gweithio gyda thri chymuned yn y Cymoedd – Treherbert, Ynysowen a Chaerau – ynghyd â’r holl randdeiliaid allweddol megis Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Lleol, i ddeall sut y gallai tir a reolir gan y cyhoedd ar hyn o bryd gael ei reoli gan gymuned leol.
Mae’r astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal gan Cymoedd Gwyrdd gyda chyllid gan y Friends Provident Foundation.
Beth mae’r astudiaeth ddichonoldeb yn ei golygu?
Yr agwedd bwysicaf fydd gweithio gyda chymunedau i archwilio beth y gallai ei olygu a deall y risgiau a’r cyfleoedd. Mae’r prosiect dichonoldeb yn ceisio ateb rhai o’r cwestiynau canlynol:
- Beth yw’r ffordd orau o lywodraethu prosiect tir cymunedol? Sut ydych chi’n sicrhau cynhwysiant a thegwch? Beth yw’r profiad o’r Alban a rhannau eraill o Ewrop?
- A oes modelau busnes cynaliadwy a fydd yn golygu nad yw’r gymuned yn ddibynnol ar incwm grant parhaus? Beth yw’r cyfalaf a’r sgiliau sy’n ofynnol i wireddu’r syniadau a ddatblygwyd gan y gymuned?
- Beth yw effaith amgylcheddol unrhyw newid mewn defnydd tir? Sut y gallwn sicrhau ein bod yn gwella’r dirwedd a pheidio â gwneud mwy o ddifrod iddi?
- Beth yw goblygiadau cyfreithiol trosglwyddo cyfrifoldeb rheoli?
Mae’r holl waith hwn wedi’i sbarduno gan y weledigaeth y bydd y gymuned yn datblygu ar gyfer ei thirwedd – ei chynlluniau a’i gweledigaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf a’r 100 mlynedd nesaf!
Beth sy’n digwydd ar ddiwedd yr astudiaeth ddichonoldeb?
Bydd hyn yn dibynnu ar ganlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb. Mae’n bosibl y gall cymuned roi’r cynlluniau ar waith os gallwn ddangos bod buddiannau cymdeithasol ac economaidd rheoli tir cymunedol yn gorbwyso’r risgiau – ac yn hollbwysig – bod cefnogaeth eang i’r syniad ledled y gymuned. Bydd angen i ni ddangos hefyd, er boddhad y tirfeddianwyr a’r rheolwyr presennol, y gall rheolaeth gymunedol gyflwyno buddiannau i bawb.
Ond mae hwn yn syniad cwbl newydd. Nid yw wedi’i brofi yng Nghymru o’r blaen, felly nid oes unrhyw sicrwydd beth fydd y canlyniad!