The Green Valleys

Cwmni Buddiannau Cymunedol ym Mannau Brycheiniog sydd wedi ennill llu o wobrau yw The Green Valleys (Cymru). Rydym yn ysbrydoli a chefnogi cymunedau i gynhyrchu buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cynaliadwy trwy bontio i ddyfodol o allyriadau carbon isel.

Y newid yn yr hinsawdd yw’r her fwyaf sy’n ein hwynebu. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn ddod o hyd i atebion a fydd o fudd i’n cymunedau am genedlaethau i ddod. Ers 2009, rydym wedi gweithio ochr yn ochr ag amryw o gymunedau i gefnogi prosiectau llwyddiannus sy’n creu gwelliannau ym maes ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni a bioamrywiaeth.

Cysylltwch â ni os ydych chi’n credu y gallwn ni gynnig help yn eich cymuned.

Ein Prosiectau

Skyline

Astudiaeth ddichonoldeb sy’n edrych ar y posibilrwydd o gymunedau yn rheoli’r dirwedd o gwmpas eu tref neu eu pentref yw Project Skyline. Mae’n archwilio’r syniad o beth fyddai’n digwydd pe baem yn galluogi pobl leol i lywio eu hamgylchedd eu hunain? Beth fyddai cymuned yn dewis ei wneud gyda’r tir pe bai’n gallu cynllunio ar gyfer tair cenhedlaeth, yn hytrach na thair blynedd grant Loteri? Creu swyddi o goedwigaeth? Cefnogi tyddynnod neu brosiectau bwyd? Gwella mynediad i’r cyhoedd? Cefnogi bywyd gwyllt?

Mae Project Skyline yn ceisio ateb y cwestiynau hyn.

Coetiroedd

Rydym wedi cefnogi datblygiad amryw o grwpiau coetir cymunedol. Mae rheolaeth weithredol gan bobl leol yn gwella cynefinoedd coetir, yn cynhyrchu tanwydd coed a chynhyrchion pren eraill ac yn darparu gweithgarwch sy’n cefnogi iechyd corfforol a meddyliol, rhyngweithio cymdeithasol, dysgu a mwynhad.

Ynni Lleol

Mae Ynni Lleol yn fenter sy’n trawsnewid y farchnad drydan ar gyfer cymunedau a chynhyrchwyr ynni adnewyddadwy ar raddfa fach. Ei nod yw helpu cymunedau i gael mwy o werth o gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa fach trwy ddefnyddio’r trydan yn lleol.

Mae Cymoedd Gwyrdd yn cefnogi gwaith CIC Ynni Lleol yng Nghymru.

ECCO – Cydweithfeydd Ynni Cymunedol

Mae Cydweithfeydd Ynni Cymunedol yn creu cyfleoedd enfawr i ddinasyddion a chymunedau elwa’n uniongyrchol ar ymdrechion i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae prosiectau ynni adnewyddadwy a ddatblygir gan bobl leol yn sicrhau bod cymunedau yn rheoli systemau ynni amgen sy’n newid. Mae’r prosiect ECCO yn cefnogi datblygiad cydweithfeydd ynni newydd yng Nghymru ac yn ceisio creu adnoddau a phrosesau i gyflymu datblygiad a chapasiti’r sector. Fe’i hariennir gan Interreg North West Europe a Llywodraeth Cymru.