Amdanom Ni
Sefydlwyd ein Cwmni Buddiannau Cymunedol yn 2009 gan aelodau’r gymuned yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Roedd cymunedau eisiau mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, gan leihau allyriadau carbon a gwella eu hamgylchedd lleol. Tyfodd Cymoedd Gwyrdd i ddarparu cymorth, arweiniad a chyngor, gan weithredu fel catalydd a sbardun ar gyfer camau gweithredu dan arweiniad y gymuned.
Rydym yn cael ein llywodraethu gan Fwrdd Cyfarwyddwyr gwirfoddol ac yn ymgymryd â phrosiectau grant a gwasanaethau contract.
Cysylltwch â ni os ydych chi’n credu y gallwn ni helpu gyda phrosiect yn eich cymuned.