ECCO – Energy Community Cooperatives
Mae ECCO yn brosiect Interreg Gogledd-Orllewin Ewrop sy’n rhedeg hyd at fis Medi 2020.
Mae’r prosiect yn cynnwys 11 o bartneriaid Prosiect mewn 6 gwlad. Mae ECCO yn cael ei ddarparu yng Nghymru gan CIC Cymoedd Gwyrdd ac yn derbyn arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, ac mae gennym 4 aelod staff prosiect yn gweithio gyda chymunedau yn y Gogledd a’r Canolbarth.
Nod y prosiect yw:
Dyfnhau: gwneud ECCOs yn fwy effeithiol a gwella’r broses o reoli ynni yn lleol. Gwneud ECCOs presennol yn fwy effeithiol trwy rannu arfer gorau ar gyllid, strwythurau cyfreithiol, cyfraniad cymunedol a gofynion technegol a sefydliadol ar draws y tiriogaethau partner.
Ehangu: tyfu’r rhwydwaith ECCO trwy gefnogi datblygiad ECCOs ychwanegol. Ysbrydoli, hyfforddi a chefnogi’r gwaith o greu ECCOs newydd.
Cynnal: gwneud ECCOs yn rhan o ddatblygiad polisi ynni. Yn y tymor hwy, y nod yw creu fframwaith cynaliadwy ar gyfer cydweithrediad rhyngwladol.
Mae’r prosiect hwn yn creu dull amgen y gall llunwyr polisi lleol a rhanbarthol yng ngogledd-orllewin Ewrop ei ddefnyddio i gyrraedd targedau o ran lleihau nwyon tŷ gwydr. Ein nod yw cyflymu datblygiad Cydweithfeydd Ynni Cymunedol (ECCOs) Adnewyddadwy lleol: cydweithfeydd ynni cymunedol adnewyddadwy lleol, sy’n cynnwys ffermwyr, dinasyddion preifat ac entrepreneuriaid lleol, i gynhyrchu, storio a chyflenwi ynni adnewyddadwy trwy ddefnyddio ffynonellau naturiol lleol o ardaloedd gwledig nad ydynt yn cynnwys unrhyw ddadleoli cynhyrchu bwyd, gan sbarduno busnes lleol ar y cyd ar gyfer buddiannau economaidd tymor hir dan arweiniad rheolaeth ddemocrataidd gymunedol ac ymrwymo i ddysgu, hyfforddi a chydweithredu.
Prosiectau ECCO
- Creu ECCOs newydd. Rydym yn dechrau creu pum cydweithfa ynni newydd yng Nghymru, ac mae’r gwaith datblygu yn mynd rhagddo.
- Dosbarthiadau meistr. Rydym eisiau cynnal amryw o sesiynau hyfforddi yn cwmpasu pob agwedd ar bynciau ynni. Gyda’r sector ynni cymunedol yn wynebu amryw o heriau yn 2019, rydym yn ystyried pa bynciau all ddarparu’r wybodaeth orau i helpu datblygiad yn y dyfodol.
- Cynadleddau. Rydym yn bwriadu cynnal dwy gynhadledd dros gyfnod y prosiect ac yn ystyried opsiynau gydag amryw o grwpiau ynni cymunedol ynghylch y pynciau mwyaf gwerth chweil.
- Canllaw arfer da ar gyllid. Rydym yn bwriadu cynhyrchu canllaw ar gyllid priodol. Rydym yn disgwyl eglurder ar Brexit, allforio a chostau grid, ac mae’n debygol na fydd gwaith ar hyn yn cychwyn tan ddiwedd 2019.
- Adrodd ar leihau allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr a buddiannau economaidd-gymdeithasol. Mae hyn yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â phartneriaid prosiect eraill i greu rhywfaint o gysondeb yn yr adroddiadau. Dechreuwyd ar y datblygiad yn gynnar yn 2019 a bydd yn cysylltu â Dangosyddion Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru lle bo hynny’n bosibl.
- Cyfnewid gwaith mentora. Bydd partneriaid prosiect yn rhannu eu harbenigedd i gynorthwyo prosiectau mewn gwledydd eraill. Rydym newydd ddechrau trefnu i gael mynediad at arbenigedd o’r Iseldiroedd ar rannu/gwefru ceir EV, ac wedi ymweld â phartneriaid yn Iwerddon i helpu i asesu cyfleoedd ynni dŵr.
- Adnoddau datblygiadol. Mae pob partner wedi darparu amryw o adnoddau cynllunio ac ymgysylltu a ddefnyddir mewn gweithdai, sesiynau cymunedol, digwyddiadau cyhoeddus ac ati. Mae’r adnoddau hyn yn cael eu crynhoi ar hyn o bryd a byddant yn cael eu rhannu ar ôl eu cwblhau, gan fod rhai ymarferion defnyddiol sydd wedi gweithio mewn cymunedau Ewropeaidd eraill.
- Rhwydwaith Cyflymu. Mae ECCO yn bwriadu gadael gwaddol clir fel y gall ECCOs ffurfio yn y dyfodol. Ar gyfer Cymru, mae llawer o’r darnau yn eu lle yn barod, felly bydd y Rhwydwaith Cyflymu yn gosod proses glir ar gyfer cefnogaeth a chyfathrebu rhwng grwpiau ynni cymunedol. Yn hytrach na cheisio disodli strwythurau cymorth presennol neu arfaethedig, nod y Rhwydwaith Cyflymu yw ceisio cydgysylltu’r rhain yn well ac osgoi dyblygu, ail-greu a phroblemau y gellir eu hosgoi. Bydd yn gyfrwng hefyd i rannu arfer gorau.
Project Partners
1 Boerenbondvereniging voor Innovatieve ISP Projecten vzw (Innovatiesteunpunt) , Belgium
2 Cork Institute of Technology CIT , Ireland
3 Philipps-Universität Marburg UMR, Germany
4 Stichting Streekhuis Het Groene Woud HGW, Netherlands
5 South Kerry Development Partnership Ltd. SKDP , Ireland
6 REScoop.eu RES, Belgium
7 Energies Citoyennes en Pays de Vilaine EPV, France
8 Agrobeheercentrum ecokwadraat ABC, Belgium
9 LochemEnergie (Coöperatie UA) CLE, Netherlands
10 Zuidelijke Land- en Tuinbouworganisatie ZLTO, Netherlands
11 The Green Valleys (Wales) Community Interest TGV Company, Wales
Latest Project News
- Heuldro OgwenMae Ynni Ogwen wedi bod yn cydweithio â chynllun ECCO, Partneriaeth Ogwen, Cyd Ynni a pherchnogion nifer o adeiladau cymunedol yn Nyffryn Ogwen i geisio datblygu cynllun paneli solar cymunedol newydd. Bydd cynllun Heuldro Ogwen yn gosod paneli solar ar nifer o adeiladau cymunedol yn y Dyffryn yn cynnwys Clwb Rygbi Bethesda, Canolfan Dyffryn Gwyrdd […]