Ynni Lleol
Mae Ynni Lleol yn trawsnewid y farchnad drydan ar gyfer cymunedau a chynhyrchwyr ynni adnewyddadwy ar raddfa fach. Ei nod yw helpu cymunedau i gael mwy o werth o gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa fach trwy ddefnyddio’r trydan yn lleol.
Sut? Mae Ynni Lleol wedi dylunio dull o gael marchnad leol o ran cynhyrchu trydan trwy Glybiau Ynni Lleol. Mae hyn yn galluogi aelwydydd i ddod at ei gilydd i ddangos eu bod yn defnyddio pŵer glân lleol pan mae’n cael ei gynhyrchu. Mae’r cynllun yn rhoi gwell pris i gynhyrchwyr am y pŵer y maent yn ei gynhyrchu sy’n adlewyrchu ei werth go iawn, yn cadw mwy o arian yn lleol ac yn lleihau biliau trydan aelwydydd.
Mae CBC Ynni Lleol eisiau creu Clybiau ledled y DU – gallai hyn wneud miloedd yn fwy o gynlluniau pŵer glân yn bosibl, gan greu swyddi gwyrdd, trechu tlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon.
Enillodd CBC Ynni Lleol Wobr Ashden, a gallwch chi wylio fideo fer ar wefan Gwobrau Ashden yn:
Ynni Lleol yng Nghymru
Cefnogir y prosiect hwn trwy Ynni Cymunedol Cymru (Community Energy Wales – CEW). Mae CEW wedi ennyn cefnogaeth gan grwpiau ynni cymunedol ar lawr gwlad ledled Cymru i helpu i ddatblygu Clybiau Ynni Lleol ledled y wlad. Ochr yn ochr â chymunedau a chynhyrchwyr ynni adnewyddadwy lleol, rydym yn gweithio i nodi lle gallai clybiau llwyddiannus gael eu creu a darparu cysylltiad pwysig rhwng CBC Ynni Lleol a’r clybiau lleol.
The Green Valleys yn cefnogi datblygiad clybiau newydd ym Mhowys ac yn cefnogi’r rhwydwaith ehangach o ddatblygwyr Ynni Lleol.
Ynni Lleol ym Mhowys
Mae Ynni Lleol yn gweithio mewn ardaloedd lle mae cynhyrchwyr addas a digon o aelodau clwb posibl yn gysylltiedig â’r un is-orsaf o’r rhwydwaith trydan. Pennu lle mae’r ardaloedd hyn a chael darlun clir o’r ynni posibl a maint yr aelodaeth yw cam cyntaf datblygu Clybiau newydd.
The Green Valleys yn darparu prosiect i fapio ardaloedd y rhwydwaith trydan a nodi lle mae cynhyrchwyr addas ledled Powys. Gyda’r holl wybodaeth sylfaenol hon ar waith, gallwn sicrhau y gallwn ni gyflymu datblygiad Clybiau newydd ledled Powys fel y bydd defnyddwyr ynni yn y sir ymhlith y cyntaf i elwa ar y prosiect arloesol hwn.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.