The Green Valleys

The Green Valleys

  • Cartref
  • Ein Prosiectau
    • Ynni Lleol
    • Skyline
      • Bro Ffestiniog
      • Caerau
      • Treherbert
      • Ynysowen
    • Coetiroedd
  • Prosiectau yn y Gorffennol
    • ECCO – Energy Community Cooperatives
  • Ein Newyddion
  • Amdanom Ni
  • Cymraeg
    • English

Coetiroedd

Mae Cymru yn gartref i rai coedwigoedd ysblennydd, a hefyd cryn dipyn o  goetiroedd bach nad ydynt yn cael eu rheoli’n weithredol mwyach. Mae’r rhan fwyaf o gynefinoedd coetir yn elwa ar rywfaint o waith rheoli gweithredol sy’n helpu i gefnogi bywyd gwyllt brodorol.

Mae llawer o dai hŷn yng Nghymru wledig ac nid yw llawer o gartrefi wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad nwy, felly maent yn defnyddio olew neu LPG ar gyfer gwresogi. Mae gan y cartrefi hŷn hyn simneiau sydd â’r potensial i ddefnyddio tanwydd coed fel yr oeddent yn ei wneud yn y gorffennol.

Datblygodd Cymoedd Gwyrdd ateb cymunedol i ddychwelyd i reoli coetiroedd trwy gynhyrchu tanwydd coed cynaliadwy at ddefnydd lleol. Rydym wedi cefnogi datblygiad grwpiau coetir cymunedol lleol, gan helpu amrywiaeth o dirfeddianwyr i reoli coetiroedd a chynhyrchu tanwydd coed gwerthfawr i aelodau’r grŵp ei ddefnyddio gartref.

Fe ddatblygon ni raglen hyfforddi a helpodd gymunedau i asesu coetiroedd ar gyfer eu rheoli, gan gynnwys:

  • Nodi cyfyngiadau
  • Datblygu cynlluniau rheoli ysgrifenedig i’w cytuno gyda’r tirfeddiannwr.
  • Galluogi dysgu am gynefinoedd coetir ac ecoleg sylfaenol, rhywogaethau pwysig ac a warchodir a chynllunio sut i ddefnyddio coed yn gynaliadwy.
  • Cynnig hyfforddiant ar gyfer amrywiaeth o sgiliau ymarferol, gan gynnwys materion diogelwch, mynediad, cynllunio rhaglenni gwaith, trefnu safle gwaith, yswiriant, cydsyniadau, defnyddio offer yn ddiogel a thechnegau priodol ar gyfer cwympo a thocio coed.

Mae saith grŵp coetir cymunedol ym Mannau Brycheiniog ar hyn o bryd, ac maent yn gwella cynefinoedd coetir ac yn cynhyrchu tanwydd coed at ddefnydd lleol.

Rydym wedi gwneud gwaith hefyd i adfer perllannau ar draws amryw o safleoedd. Mae angen tocio a rheoli coed perllannau yn ofalus i ymestyn eu hoes a sicrhau cnydau iach. Fe roddon ni help ymarferol i dirfeddianwyr ac rydym wedi cynnal sawl cwrs ar dechnegau tocio cywir. Rydym hefyd wedi cefnogi’r gwaith o greu perllannau newydd gydag amryw o grwpiau cymunedol, gan arwain at blannu mwy na 150 o goed newydd o fathau brodorol mewn mannau cymunedol.

Our Projects

  • ECCO – Energy Community Cooperatives
  • Ynni Lleol
  • Skyline
  • Coetiroedd

Latest

  • Coed Hen Ffordd
  • Heuldro Ogwen

The Green ValleysFollow

The Green Valleys
SFarm_GardenCymFfermydd a Gerddi Cymdeithasol Cymru@SFarm_GardenCym·
24 Nov

Celebrating the benefits of wider land access - great discussion going on with Gary Mitchell, SF&G, Mark Walton ... @shared_assets, Duncan Fisher Our Food 1200, Lucie Taylor @Lucieclas & Chris Blake @thegreenvalleys @wrffc22 #wrffc

wrffc22CGFFfC -WRFFC@wrffc22·
24 Nov

Integrate planning policy and food policy says @Lucieclas discussing access to land. Make it all fair and transparent. ... Great session with @SFarms_Gardens @DuncanFisher @thegreenvalleys

thegreenvalleysThe Green Valleys@thegreenvalleys·
24 Nov

Job Alert! We have an opening for a project administrator to help us delivery the Skyline project. Contact via email on ... Job Advert. Pls RT Diolch!

Terms & Conditions/Privacy Statement | About Us

Copyright © 2023 The Green Valleys
c/o CRiC, Beaufort Street, Crickhowell, NP8 1BN. Tel: 01874 611039
Website designed and hosted by Mid Wales Design

This website uses cookies to improve your experience. We'll assume you're ok with this, but you can opt-out if you wish. Cookie settingsACCEPT
Privacy & Cookies Policy

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these cookies, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may have an effect on your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Non-necessary
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.
SAVE & ACCEPT