Skyline Bro Ffestiniog
Doedd ddim y fath beth ag archfarchnad pan roedd ein teidiau a neiniau yn blant. Ym mhob tref, roedd siopau arbenigol, bychan yn gwerthu rhai eitemau mewnforied a llawer o rai wedi’i gynhyrchu yn ddomestig. Bron phob tŷ llysiau a ffrwythau yn tyfu yn yr ardd gefn.
Buasai nhw yn gwneud jamiau a bwyd cadw, rhai hyd yn oed yn bragu cwrw neu win eu hunain. Roedd pawb yn helpu ei gilydd yn ystod y cyfnod cynaeafu a rhannu eu llwyddiannau a methiannau. Doedd nesa peth i ddim o gemegau yn y bwyd roedden yn bwyta nôl yn yr adeg hynny, ac technegau ffermio ar raddfa fawr ddim ond ar gychwyn cael eu dyfeisio.
Yn syml, roedd ein systemau bwyd yn fwy iach, mwy blasus a mwy chadarn. Roedd mwy o fioamrywiaeth, a llai o broblemau iechyd meddwl ac alergeddau bwyd.
Dyna yw cenhadaeth prosiect Skyline ym Mro Ffestiniog: i ddod a bwyd a thanwydd a gwybodaeth yn nol i’r cymunedau ble roedd o unwaith yn ffynnu. Gydag ein gilydd, rydan yn sefydlu gardd farchnad, busnes coed tân fforddiadwy a chanolfan sgiliau traddodiadol sydd yn ymarferol ac effeithlon, ble fyddwn yn addysgu’r hen ffyrdd i’r cenedlaethau newydd.
Gyda chyllideb gan Lywodraeth Cymru ac mewn Partneriaeth gyda’r Dref Werdd, byddwn yn cychwyn ar waith yn gynnar yn y ha far dri safle o amgylch Blaenau Ffestiniog.
Bydd gwirfoddolwyr yn rhan oll bwysig o’r prosiect, a bydden yn cael barbeciws gwych a phaneidiau o de diddiwedd, yn ogystal â’r wybodaeth i gynhesu’r galon eu bod nhw yn cyfrannu at rywbeth real a phositif.I ddarganfod mwy neu i wirfoddoli, cysylltwch gyda Wil Gritten, ein Rheolwr Prosiect Skyline, ar