Skyline Ynysowen
Mae Ynysowen yn un o’r pentrefi niferus yng Nghymru lle mae diffyg cysylltiad wedi datblygu rhwng ei bobl a’r tir. Er eu bod wedi’u hamgylchynu gan natur, ychydig iawn o bobl yn y gymuned sy’n ei fwynhau’n aml iawn. Nid yw’r mannau naturiol hyn yn cael eu hysbysebu ac mae nifer fawr o bobl yn dal i fod yn anghyfarwydd â nhw. Y rheswm am hyn yw diffyg hygyrchedd, gwaith neu addysg, a blaenoriaethau eraill sy’n gwthio ein cysylltiad â’n hamgylchedd o’r neilltu.
Mae’r tir y gobeithiwn ei wella yn ardal o harddwch naturiol sydd heb gael y gwerthfawrogiad y dylai. Ymgais yw hyn i newid ei ddefnydd mewn ffordd sydd o fudd i bawb, yn ogystal â chreu gwir ymdeimlad o berchnogaeth. Mae’r tir a elwir yn lleol yn Patsy’s Field yn cynnwys dôl fawr sy’n arwain at lan afon ac mae wedi’i amgylchynu gan goetir amrywiol. Rydym yn bwriadu darparu gofod sy’n hygyrch ac yn groesawgar, lle gall y gymuned a’i hymwelwyr archwilio, cysylltu a dysgu oddi wrth ei gilydd a’u hamgylchoedd. Gobeithiwn helpu pobl i ddarganfod y diwylliant, yr hanes a’r traddodiadau gwerin sy’n dod law yn llaw â’r dirwedd brydferth hon.
Bydd rheoli’r tir a’r coetir ei hun yn gyfle gwych i ehangu sylfaen sgiliau pobl frwdfrydig leol; o luosogi hadau, bondocio, monitro a chynnal amodau pridd, a sesiynau amgylcheddol eraill. Mae tystiolaeth i ddangos bod y gweithgareddau hyn yn gwella iechyd a lles ac yn creu ymdeimlad o gydlyniant cymunedol y mae angen mawr amdano. Bydd y llwybr cerdded a ddefnyddir yn helaeth yn cael ei ymestyn a’i wella i greu llwybr dolennog o Patsy’s Field sy’n caniatáu i ymwelwyr fynd yn rhwydd o amgylch nodweddion yr ardal. Mae cyfleoedd di-ben-draw i hyrwyddo gwirfoddoli drwy grwpiau gweithgareddau tyfu a choetiroedd, gweithgareddau creadigol naturiol, a chadwraeth a gwella cynefinoedd. Am ein bod eisiau gwella bioamrywiaeth leol drwy ddiogelu cynefinoedd o werth cadwraethol sy’n bodoli eisoes, ynghyd â rhai newydd – megis cynefinoedd draenogod, ystlumod, adar ac ati – mae hwn yn gyfle gwych i gynnig dysgu estynedig drwy ysgolion coedwig a gweithgareddau cymdeithasol a chreadigol.
Yn fwyaf diweddar, defnyddiwyd y tir fel parth dros dro ar gyfer addysg, archwilio a gweithgareddau drwy brofiad i deuluoedd lleol. Yn ystod haf 2021 gwelwyd rhai o’r digwyddiadau mwyaf llwyddiannus i gael eu cynnal ar y plot yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Darparwyd amrywiaeth eang o weithgareddau – archwilio coetiroedd, adnabod coed, planhigion a phryfed, fforio, a sesiynau ailgysylltu diwylliannol. Cafodd y sesiynau hyn dderbyniad da ac roeddent yn ffordd berffaith o bontio’r bwlch ac ail uno plant o ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg lleol. Byddai adeiladu strwythur addysgol a allai gynnal digwyddiadau o’r fath yn rheolaidd ynghyd â grwpiau mwy personol, yn adfywio lle sy’n segur ac yn rhoi cyfleoedd addysgol mewn pynciau sy’n cael eu hanwybyddu’n aml, er bod y diddordeb ynddynt yn tyfu ymysg pobl ifanc heddiw a bod cymaint o fudd iddynt o’u gwneud. Bydd y ganolfan addysg yn lle perffaith i arbenigwyr lleol, hyfforddwyr a thiwtoriaid sy’n ymweld gynnal dosbarthiadau a chyrsiau, gwella adnoddau dysgu amgen yn yr ardal, yn ogystal ag ysbrydoli brwdfrydedd newydd am ein hamgylchedd.
