Coetiroedd
Mae Cymru yn gartref i rai coedwigoedd ysblennydd, a hefyd cryn dipyn o goetiroedd bach nad ydynt yn cael eu rheoli’n weithredol mwyach. Mae’r rhan fwyaf o gynefinoedd coetir yn elwa ar rywfaint o waith rheoli gweithredol sy’n helpu i gefnogi bywyd gwyllt brodorol.
Mae llawer o dai hŷn yng Nghymru wledig ac nid yw llawer o gartrefi wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad nwy, felly maent yn defnyddio olew neu LPG ar gyfer gwresogi. Mae gan y cartrefi hŷn hyn simneiau sydd â’r potensial i ddefnyddio tanwydd coed fel yr oeddent yn ei wneud yn y gorffennol.
Datblygodd Cymoedd Gwyrdd ateb cymunedol i ddychwelyd i reoli coetiroedd trwy gynhyrchu tanwydd coed cynaliadwy at ddefnydd lleol. Rydym wedi cefnogi datblygiad grwpiau coetir cymunedol lleol, gan helpu amrywiaeth o dirfeddianwyr i reoli coetiroedd a chynhyrchu tanwydd coed gwerthfawr i aelodau’r grŵp ei ddefnyddio gartref.
Fe ddatblygon ni raglen hyfforddi a helpodd gymunedau i asesu coetiroedd ar gyfer eu rheoli, gan gynnwys:
- Nodi cyfyngiadau
- Datblygu cynlluniau rheoli ysgrifenedig i’w cytuno gyda’r tirfeddiannwr.
- Galluogi dysgu am gynefinoedd coetir ac ecoleg sylfaenol, rhywogaethau pwysig ac a warchodir a chynllunio sut i ddefnyddio coed yn gynaliadwy.
- Cynnig hyfforddiant ar gyfer amrywiaeth o sgiliau ymarferol, gan gynnwys materion diogelwch, mynediad, cynllunio rhaglenni gwaith, trefnu safle gwaith, yswiriant, cydsyniadau, defnyddio offer yn ddiogel a thechnegau priodol ar gyfer cwympo a thocio coed.
Mae saith grŵp coetir cymunedol ym Mannau Brycheiniog ar hyn o bryd, ac maent yn gwella cynefinoedd coetir ac yn cynhyrchu tanwydd coed at ddefnydd lleol.
Rydym wedi gwneud gwaith hefyd i adfer perllannau ar draws amryw o safleoedd. Mae angen tocio a rheoli coed perllannau yn ofalus i ymestyn eu hoes a sicrhau cnydau iach. Fe roddon ni help ymarferol i dirfeddianwyr ac rydym wedi cynnal sawl cwrs ar dechnegau tocio cywir. Rydym hefyd wedi cefnogi’r gwaith o greu perllannau newydd gydag amryw o grwpiau cymunedol, gan arwain at blannu mwy na 150 o goed newydd o fathau brodorol mewn mannau cymunedol.