The Green Valleys

The Green Valleys

  • Cartref
  • Ein Prosiectau
    • Ynni Lleol
    • Skyline
      • Bro Ffestiniog
      • Caerau
      • Treherbert
      • Ynysowen
    • Coetiroedd
  • Prosiectau yn y Gorffennol
    • ECCO – Energy Community Cooperatives
  • Ein Newyddion
  • Amdanom Ni
  • Cymraeg
    • English

ECCO – Energy Community Cooperatives

Mae ECCO yn brosiect Interreg Gogledd-Orllewin Ewrop sy’n rhedeg hyd at fis Medi 2020.

Mae’r prosiect yn cynnwys 11 o bartneriaid Prosiect mewn 6 gwlad. Mae ECCO yn cael ei ddarparu yng Nghymru gan CIC Cymoedd Gwyrdd ac yn derbyn arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, ac mae gennym 4 aelod staff prosiect yn gweithio gyda chymunedau yn y Gogledd a’r Canolbarth.

http://www.nweurope.eu/projects/project-search/ecco-creating-new-local-energy-community-co-operatives/

Nod y prosiect yw:

Dyfnhau: gwneud ECCOs yn fwy effeithiol a gwella’r broses o reoli ynni yn lleol. Gwneud ECCOs presennol yn fwy effeithiol trwy rannu arfer gorau ar gyllid, strwythurau cyfreithiol, cyfraniad cymunedol a gofynion technegol a sefydliadol ar draws y tiriogaethau partner.

Ehangu: tyfu’r rhwydwaith ECCO trwy gefnogi datblygiad ECCOs ychwanegol. Ysbrydoli, hyfforddi a chefnogi’r gwaith o greu ECCOs newydd.

Cynnal: gwneud ECCOs yn rhan o ddatblygiad polisi ynni. Yn y tymor hwy, y nod yw creu fframwaith cynaliadwy ar gyfer cydweithrediad rhyngwladol.

Mae’r prosiect hwn yn creu dull amgen y gall llunwyr polisi lleol a rhanbarthol yng ngogledd-orllewin Ewrop ei ddefnyddio i gyrraedd targedau o ran lleihau nwyon tŷ gwydr. Ein nod yw cyflymu datblygiad Cydweithfeydd Ynni Cymunedol (ECCOs) Adnewyddadwy lleol: cydweithfeydd ynni cymunedol adnewyddadwy lleol, sy’n cynnwys ffermwyr, dinasyddion preifat ac entrepreneuriaid lleol, i gynhyrchu, storio a chyflenwi ynni adnewyddadwy trwy ddefnyddio ffynonellau naturiol lleol o ardaloedd gwledig nad ydynt yn cynnwys unrhyw ddadleoli cynhyrchu bwyd, gan sbarduno busnes lleol ar y cyd ar gyfer buddiannau economaidd tymor hir dan arweiniad rheolaeth ddemocrataidd gymunedol ac ymrwymo i ddysgu, hyfforddi a chydweithredu.

Prosiectau ECCO

  1. Creu ECCOs newydd. Rydym yn dechrau creu pum cydweithfa ynni newydd yng Nghymru, ac mae’r gwaith datblygu yn mynd rhagddo.
  2. Dosbarthiadau meistr. Rydym eisiau cynnal amryw o sesiynau hyfforddi yn cwmpasu pob agwedd ar bynciau ynni. Gyda’r sector ynni cymunedol yn wynebu amryw o heriau yn 2019, rydym yn ystyried pa bynciau all ddarparu’r wybodaeth orau i helpu datblygiad yn y dyfodol.
  3. Cynadleddau. Rydym yn bwriadu cynnal dwy gynhadledd dros gyfnod y prosiect ac yn ystyried opsiynau gydag amryw o grwpiau ynni cymunedol ynghylch y pynciau mwyaf gwerth chweil.
  4. Canllaw arfer da ar gyllid. Rydym yn bwriadu cynhyrchu canllaw ar gyllid priodol. Rydym yn disgwyl eglurder ar Brexit, allforio a chostau grid, ac mae’n debygol na fydd gwaith ar hyn yn cychwyn tan ddiwedd 2019.
  5. Adrodd ar leihau allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr a buddiannau economaidd-gymdeithasol. Mae hyn yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â phartneriaid prosiect eraill i greu rhywfaint o gysondeb yn yr adroddiadau. Dechreuwyd ar y datblygiad yn gynnar yn 2019 a bydd yn cysylltu â Dangosyddion Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru lle bo hynny’n bosibl.
  6. Cyfnewid gwaith mentora. Bydd partneriaid prosiect yn rhannu eu harbenigedd i gynorthwyo prosiectau mewn gwledydd eraill. Rydym newydd ddechrau trefnu i gael mynediad at arbenigedd o’r Iseldiroedd ar rannu/gwefru ceir EV, ac wedi ymweld â phartneriaid yn Iwerddon i helpu i asesu cyfleoedd ynni dŵr.
  7. Adnoddau datblygiadol. Mae pob partner wedi darparu amryw o adnoddau cynllunio ac ymgysylltu a ddefnyddir mewn gweithdai, sesiynau cymunedol, digwyddiadau cyhoeddus ac ati. Mae’r adnoddau hyn yn cael eu crynhoi ar hyn o bryd a byddant yn cael eu rhannu ar ôl eu cwblhau, gan fod rhai ymarferion defnyddiol sydd wedi gweithio mewn cymunedau Ewropeaidd eraill.
  8. Rhwydwaith Cyflymu. Mae ECCO yn bwriadu gadael gwaddol clir fel y gall ECCOs ffurfio yn y dyfodol. Ar gyfer Cymru, mae llawer o’r darnau yn eu lle yn barod, felly bydd y Rhwydwaith Cyflymu yn gosod proses glir ar gyfer cefnogaeth a chyfathrebu rhwng grwpiau ynni cymunedol. Yn hytrach na cheisio disodli strwythurau cymorth presennol neu arfaethedig, nod y Rhwydwaith Cyflymu yw ceisio cydgysylltu’r rhain yn well ac osgoi dyblygu, ail-greu a phroblemau y gellir eu hosgoi. Bydd yn gyfrwng hefyd i rannu arfer gorau.

Project Partners

1 Boerenbondvereniging voor Innovatieve ISP Projecten vzw (Innovatiesteunpunt) , Belgium
2 Cork Institute of Technology CIT , Ireland
3 Philipps-Universität Marburg UMR, Germany
4 Stichting Streekhuis Het Groene Woud HGW, Netherlands
5 South Kerry Development Partnership Ltd. SKDP , Ireland
6 REScoop.eu RES, Belgium
7 Energies Citoyennes en Pays de Vilaine EPV, France
8 Agrobeheercentrum ecokwadraat ABC, Belgium
9 LochemEnergie (Coöperatie UA) CLE, Netherlands
10 Zuidelijke Land- en Tuinbouworganisatie ZLTO, Netherlands
11 The Green Valleys (Wales) Community Interest TGV Company, Wales

Latest Project News

  • Heuldro Ogwen
    Mae Ynni Ogwen wedi bod yn cydweithio â chynllun ECCO, Partneriaeth Ogwen, Cyd Ynni a pherchnogion nifer o adeiladau cymunedol yn Nyffryn Ogwen i geisio datblygu cynllun paneli solar cymunedol newydd. Bydd cynllun Heuldro Ogwen yn gosod paneli solar ar nifer o adeiladau cymunedol yn y Dyffryn yn cynnwys Clwb Rygbi Bethesda, Canolfan Dyffryn Gwyrdd […]

ECCO Introduction video

Our Projects

  • ECCO – Energy Community Cooperatives
  • Ynni Lleol
  • Skyline
  • Coetiroedd

Latest

  • Coed Hen Ffordd
  • Heuldro Ogwen

The Green ValleysFollow

The Green Valleys
SFarm_GardenCymFfermydd a Gerddi Cymdeithasol Cymru@SFarm_GardenCym·
24 Nov

Celebrating the benefits of wider land access - great discussion going on with Gary Mitchell, SF&G, Mark Walton ... @shared_assets, Duncan Fisher Our Food 1200, Lucie Taylor @Lucieclas & Chris Blake @thegreenvalleys @wrffc22 #wrffc

wrffc22CGFFfC -WRFFC@wrffc22·
24 Nov

Integrate planning policy and food policy says @Lucieclas discussing access to land. Make it all fair and transparent. ... Great session with @SFarms_Gardens @DuncanFisher @thegreenvalleys

thegreenvalleysThe Green Valleys@thegreenvalleys·
24 Nov

Job Alert! We have an opening for a project administrator to help us delivery the Skyline project. Contact via email on ... Job Advert. Pls RT Diolch!

Terms & Conditions/Privacy Statement | About Us

Copyright © 2023 The Green Valleys
c/o CRiC, Beaufort Street, Crickhowell, NP8 1BN. Tel: 01874 611039
Website designed and hosted by Mid Wales Design

This website uses cookies to improve your experience. We'll assume you're ok with this, but you can opt-out if you wish. Cookie settingsACCEPT
Privacy & Cookies Policy

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these cookies, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may have an effect on your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Non-necessary
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.
SAVE & ACCEPT