Mae gan Cymoedd Gwyrdd brofiad o ddarparu dros 50 o brosiectau ynni dŵr ledled Cymru, o’r prosiectau lleiaf i brosiectau mawr mewn amgylcheddau cymhleth. Rydym yn darparu pob math o wasanaethau, o asesiadau cychwynnol ac astudiaethau dichonoldeb i sicrhau trwyddedau a rheoli prosiectau adeiladu. Mae ein cleientiaid bodlon yn cynnwys perchnogion tai, ffermwyr, asiantaethau’r llywodraeth ac elusennau cofrestredig.
Os ydych chi’n grŵp cymunedol sy’n awyddus i archwilio potensial ynni dŵr, gallwn eich helpu chi bob cam o’r ffordd, o ganfod a darparu grantiau, sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect a llunio cytundebau gyda thirfeddianwyr i gyfryngau gwerthu arloesol, megis Ynni Lleol, lle gall cartrefi yn y gymuned brynu eu trydan o’r cynhyrchydd ynni dŵr.
Beth bynnag yw eich anghenion, gall Cymoedd Gwyrdd eich tywys trwy bob cam o’r broses o gynllunio a gosod prosiect ynni dŵr micro.
This post is also available in:
English